label.ECBHome
label.ECBHome

Eitem arbennig ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi: Cymro yn lliwiau Lloegr

Robert Croft yn hel atgofion am yrfa ryfeddol yn cynrychioli dwy wlad falch.

This article is available in English here: https://www.ecb.co.uk/news/3916615/st-davids-day-special-a-welshman-in-england-colours

Fel Cymro’n tyfu i fyny a gwneud dy ffordd yn y byd criced, oedd ’da ti lygad ar chwarae dros Loegr erioed? Sut oedd y berthynas yna’n gweithio?

Heblaw am griced Cynghrair y Sul, dim ond criced rhyngwladol oedd ar y teledu fel arfer. Yn tyfu i fyny yn y saithdegau, byddai Morgannwg ’mlaen o dro i dro hefyd.

Roedd y rhan fwyaf o fy arwyr i’n chwarae dros Loegr oherwydd dyna beth roeddech chi’n ei weld fwyaf. Mae'r bobl yna’n dod yn ysbrydoliaeth i chi eisiau chwarae, gwneud eich gorau glas, mynd mor bell ag y gallwch chi. Felly roedd y cysylltiad ’na â Lloegr bob amser yna.

Mewn campau eraill, mae ’na gystadleuaeth ffyrnig rhwng Cymru a Lloegr ond ym Mwrdd Criced Cymru a Lloegr mae'r ddwy wlad yn chwarae gyda'i gilydd?

Ydyn, mae hynny'n wir. Yn y byd criced, dw i ddim yn meddwl bod ’na elyniaeth go iawn, a dweud y gwir. O’m safbwynt i, roedd Lloegr bob amser yn rhan o’r llwybr i unrhyw gricedwr. Doedd dim tîm cenedlaethol gan Gymru yn cystadlu ar y lefel yna a allai ddenu eich cefnogaeth.

Dw i ddim yn gwybod sut mae pobl yn teimlo heddiw ond Saeson oedd fy arwyr i yn bennaf, achos yn anffodus doedd dim llawer o gricedwyr o Gymru yn chwarae dros Loegr.

Beth roddodd y mwyaf o falchder i ti – gwneud dy ymddangosiad cyntaf dros Forgannwg neu Loegr?

Criced rhyngwladol yw brig y gamp. Ond o ystyried lle'r oeddwn i'n 19 oed, roedd cynrychioli Morgannwg yn ddiwrnod mor falch, ac roedd yn gam yr un mor fawr bryd hynny ag yr oedd criced Prawf pan o’n i’n 26 oed, siŵr o fod.

Roedd y naid yn enfawr. Dim ond pan ddechreuodd Morgannwg ddangos diddordeb yndda’i pan o’n i’n 15 neu 16 oed y dechreues i ddeall ychydig mwy am hanes criced Morgannwg. Fel crwt ifanc, do’n i ddim yn mynd i'w gwylio nhw'n chwarae rhyw lawer. Roedden nhw’n chwarae yn St Helen’s weithiau, ond doedd e ddim yn rhywbeth rheolaidd.

Ond yn lwcus i fi, wrth i fi dyfu i fyny, roedd y chwaraewyr chwedlonol o'r cyfnod ’na yn dal i fod o gwmpas, yn rhan o'r clwb, ac yn gallu rhoi arweiniad gwych i fi. Dw i’n sôn yn arbennig am Don Shepherd. Gorffennodd e yn 1974 dw i’n meddwl. Ro'n i'n bedair oed bryd hynny, felly dw i ddim yn ei gofio'n chwarae. Ond roedd gallu ei alw'n ffrind a mentor wrth i fi fynd drwy fy ngyrfa mor bwysig i fi.

Beth wyt ti’n ei gofio am ddau o dy achlysuron pwysicaf – ennill Pencampwriaeth y Siroedd gyda Morgannwg yn 1997 a gwneud dy ymddangosiad Prawf cyntaf dros Loegr?

Os siaradwch chi â llawer o gricedwyr ifanc y dyddiau yma, mae’n siŵr y cewch chi atebion gwahanol iawn am beth sy’n bwysig o ran ennill gemau undydd, criced Pencampwriaeth, Gemau Undydd Rhyngwladol neu griced Prawf. Gyda’r arian sydd yn y gêm, mae llawer mwy o chwaraewyr ifanc yn cael eu denu at fformatau gwahanol.

Ond i fi, yn tyfu i fyny, ennill Pencampwriaeth y Siroedd oedd y nod bob amser oherwydd criced pedwar diwrnod yw’r ffurf anoddaf ar y gêm sirol. Yna mae criced Prawf, hefyd. Oherwydd mae honno’n gêm sy’n llifo, ac mae’n eich profi chi mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Dyna'r pinacl.

Wyt ti’n teimlo balchder arbennig wrth wylio Cymry eraill, fel Tony Lewis a Simon Jones, yn llwyddo yn lliwiau Lloegr?

O, yn sicr. Pan mae un o'ch cydwladwyr eich hun yn cyrraedd y lefel yna ac yn gwneud mor dda, mae'n eu rhoi nhw ar y map a gobeithio yn rhoi criced Cymru ar y map hefyd. Yn anffodus, mae'r cwpwrdd ’na wedi bod yn wag ers cryn amser nawr. Ry’n ni wedi gweld ambell i chwaraewr yn cyrraedd y tîm Dan 19 ond yna’n diflannu i raddau. Mae'n bwysig iawn i ni ddod o hyd i ryw ffordd o gynhyrchu chwaraewyr gwell ar gyfer y lefel uchaf, sydd â'r sgiliau i fynd yr holl ffordd.

Byddai hynny'n sicr yn cael effaith gadarnhaol ar ddyfodol criced yng Nghymru. Dw i’n gallu cofio gweld fy arwyr ar y llwyfan rhyngwladol. Pe bai'r un peth yn digwydd nawr, yna gallai pobl ifanc heddiw weld eu harwyr yn chwarae hefyd, a byddai hynny'n hynod fuddiol i griced yng Nghymru a hefyd i dîm criced Lloegr.

Pa mor bwysig yw hi i Loegr chwarae yng Nghaerdydd?

Pan mae’r cyfle yn codi, mae hi wastad yn bwysig i Loegr chwarae yna. Ond gallech chi ddyblu’r effaith pe bai Lloegr yn chwarae yna gyda chwaraewr o Gymru yn y tîm. Byddai hynny wir yn codi lefel diddordeb y Cymry.

Beth mae Dydd Gŵyl Dewi yn ei olygu i ti?

Mae'n golygu llawer. Mae’n fwy na jyst diwrnod arall yn y calendr. Chwaraeais i gêm Brawf dros Loegr ar Ddydd Gŵyl Dewi ’nôl ar ddiwedd y 90au ac mae ’na lun ohona i'n batio gyda chenhinen Bedr yn fy mhad. Felly mae'n ddiwrnod arbennig.

Mae'n bwysig iawn sicrhau bod y cenedlaethau iau’n teimlo cysylltiad â'n gorffennol ac yn gwybod ein hanes. Mae'n ddiwrnod i wneud pobl yn falch.