label.ECBHome
label.ECBHome

Sut mae Criced Cymru yn defnyddio'r Gymraeg i dyfu’r gamp

Gan Joe Boaden, Rhwydwaith Gohebwyr ECB

Mae ymdrech Criced Cymru i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg mewn criced yn helpu i ddenu mwy o bobl i'r gamp.

Ar Ddydd Gŵyl Dewi dair blynedd yn ôl, penderfynodd Criced Cymru benodi grŵp cynghori – y Grŵp Cymraeg – i’w cefnogi gyda'u hymrwymiad i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar bob lefel o’r gêm.

Roedd yn rhan o strategaeth ehangach i wella cydraddoldeb mewn criced, gyda'r iaith yn cael ei nodi fel ffactor pwysig o ran ennyn diddordeb cymunedau a’u hannog i gymryd rhan.

Roedd Criced Cymru yn gwybod bod 17% o'u hyfforddwyr yn siarad Cymraeg a, gydag un o bob pum person sy’n byw yng Nghymru yn siarad yr iaith - ffigwr sy’n tyfu yn ôl y sôn – mae camau llwyddiannus wedi eu cymryd.

Cyflwynwyd modiwlau i gynyddu nifer yr hyfforddwyr sy'n gallu defnyddio'r Gymraeg, gan dynnu sylw at agweddau cadarnhaol sesiynau dwyieithog, a rhoi’r derminoleg Gymraeg gywir i hyfforddwyr ar gyfer eu sesiynau.

Young cricketers on the outfield at Sophia Gardens

Ffurfiwyd y Grŵp Cymraeg i sicrhau bod criced Cymru’n parhau’n berthnasol i siaradwyr Cymraeg a magu hyder clybiau i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu gweithgareddau. Mae'n cynnwys cynrychiolwyr clybiau yn bennaf sy'n angerddol am ddefnyddio'r Gymraeg.

Mae'r grŵp yn cael ei redeg gan aelodau ac yn estyn allan at glybiau sydd ddim yn siŵr sut i ddechrau cynnwys y Gymraeg yn eu clwb neu, lle mae clybiau eisoes yn defnyddio'r Gymraeg, cyflymu beth maen nhw’n ei wneud yn barod.

Lle mae cyfran uchel o siaradwyr Cymraeg mewn clybiau criced, mae hyfforddwyr wedi cynnal sesiynau naill ai'n ddwyieithog neu'n gyfan gwbl yn Gymraeg. Yn ogystal, mae modd hysbysebu a chynnal sesiynau criced All Stars a Dynamos yn Gymraeg bellach.

Dywedodd Gareth Lanagan, sy'n cadeirio’r Grŵp Cymraeg: "Er mwyn i bobl allu cymryd rhan yn eu camp a chymryd perchnogaeth ohoni, mae'n rhaid iddyn nhw deimlo bod y gamp yn eu cynrychioli nhw mewn rhyw ffordd.

Young Glamorgan fans welcome the players onto the pitch at Sophia Gardens. Pic Glamorgan Cricket - Huw Evans Agency

"Mae ’na wastad bryder neu nerfau wrth fynd i sesiwn newydd. Pan fyddwch chi'n gorfod gwneud hynny mewn iaith sy'n llawer anoddach i chi, rydyn ni'n aml yn troi plant i ffwrdd cyn iddyn nhw gyrraedd pwynt lle maen nhw'n ymgysylltu â'r gamp.

"Mae'r elfen ’na o allu siarad a chlywed Cymraeg yn y sesiwn gyntaf yn bwysig i ymlacio pobl a gwneud iddyn nhw feddwl bod hwn yn amgylchedd lle gallan nhw fod yn gyfforddus.

 “Er enghraifft, mae’r Grŵp Cymraeg wedi creu templedi cyfryngau cymdeithasol y gall clybiau eu defnyddio am ddim i gyfathrebu’n Gymraeg a Saesneg, gan roi hyder i glybiau yn y defnydd cywir o'r Gymraeg.”

A young cricketer bats on the outfield at Sophia Gardens in Cardiff. Pic Glamorgan Cricket - Huw Eavans Agency

Mae Criced Cymru wedi nodi bod y cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn ffordd bwerus o roi cyhoeddusrwydd i’r gwaith mae clybiau yn ei wneud yn eu cymunedau ac y gallai hyn gael ei ymestyn ymhellach fyth trwy gyhoeddi cynnwys yn Gymraeg.

"Y peth cyntaf i’w wneud oedd gwneud yr iaith yn fwy amlwg ar draws platfformau Criced Cymru a chlybiau amatur yn gyffredinol i ddangos i bobl fod criced yn gamp sy’n defnyddio'r Gymraeg ac, i gymunedau Cymraeg, ei fod yn rhywbeth y gallan nhw ymgysylltu ag ef," ychwanegodd Lanagan.

Wedi'u cynnwys yn y templedi cyfryngau cymdeithasol mae templedi rhestr gêmau, taflenni tîm, a chanlyniadau ar sioe sleidiau a all gael eu golygu gan glybiau i ychwanegu eu logos, eu lliwiau a'u noddwyr eu hunain. Yn ogystal, mae Criced Cymru wedi cynhyrchu dogfen gyda chyfieithiadau o derminoleg criced allweddol yn Gymraeg a Saesneg.